Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

05 Medi 2019

Wythnos Gofalwn Cymru

Gan ddechrau ar ddydd Llun 9 Medi tan ddydd Sul 15 Medi, bydd yn Wythnos Gofalwn Cymru.

Bydd yr wythnos hon yn canolbwyntio ar gysylltu â phobl ifanc i’w helpu i ddeall y cyfleoedd posibl i weithio ym maes gofal yn eu hardal.

Bob dydd o’r wythnos bydd rhanbarth gwahanol o bob cwr o Gymru yn arddangos y gwaith gwych y maen nhw’n ei wneud i recriwtio gweithwyr newydd i ofal.

Bydd hyn yn cynnwys straeon diwrnod ym mywyd gan staff, digwyddiadau gyrfa, gweithgareddau diwrnod allan llawn hwyl a llawer mwy.  Dilynwch y gweithgareddau drwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am bopeth sy’n digwydd yn ystod yr wythnos hon ac i ddysgu mwy am y cyfleoedd eich carreg ddrws.

Edrychwch allan am eich ardal yn ystod yr wythnos:

Dydd Llun 9 Medi – Cwm Taf Morgannwg

Dydd Mawrth 10 Medi – Gorllewin Cymru

Dydd Mercher 11 Medi – Powys

Dydd Iau 12 Medi – Gogledd Cymru

Dydd Gwener 13 Medi – Caerdydd a Bro Morgannwg

Dydd Sadwrn 14 Medi – Gwent

Dydd Sul 15 Medi – Gorllewin Morgannwg

Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #WythnosGofalwn

Gallwch ein dilyn ar Instagram, Facebook a Twitter.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.