Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

22 Tachwedd 2020

Wythnos Gofalwn Cymru: Diwrnod saith - Dathlu ein gofalwyr!


Yr wythnos hon rydym wedi tynnu sylw at rai o’r gofalwyr eithriadol sydd gennym yma yng Nghymru.

Yma, rydym yn dathlu ein gweithlu ac yn diolch iddynt am eu hymrwymiad, eu caredigrwydd a’u gofal.

Gwobrau 2020

Mae y Gwobrau yn cydnabod, yn dathlu ac yn rhannu ymarfer rhagorol mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru.

Eleni, cafwyd 160 o geisiadau ar gyfer Gwobrau 2020, sef y nifer fwyaf erioed, a chwtogwyd y ceisiadau i 19 o deilyngwyr gan banel o feirniaid arbenigol.

Dyma’r chwe enillydd:

Adeiladu dyfodol disglair gyda phlant a theuluoedd (noddwyd gan UNSAIN) – enillwyd gan Gwasanaeth Mentor Rhieni Navigate @ Scope

Ar gyfer ei brosiect yn cynnig cymorth pwrpasol i rieni sydd â phlentyn ar lwybr tuag at gael diagnosis o anabledd neu nam, neu sydd wedi cael diagnosis o fewn y 12 mis diwethaf. Mae’n darparu cymorth emosiynol ac ymarferol teilwredig i rieni a gofalwyr, sy’n eu helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plentyn.

Datblygu ac ysbrydoli gweithlu yfory (noddwyd gan Data Cymru) – enillwyd gan Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Ar gyfer ei brosiect ‘Outside In’, sef grŵp ffocws sy’n defnyddio ffyrdd arloesol i addysgu gweithwyr cymdeithasol y dyfodol. Mae ‘Outside In’ yn gwneud yn siŵr bod myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn dysgu o brofiad ac arbenigedd unigolion sydd wedi derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwaith cymdeithasol ac iechyd.

Gwella gofal a chymorth yn y cartref gyda’n gilydd (noddwyd gan City & Guilds a CBAC) – enillwyd gan NEWCIS

Ar gyfer ei brosiect ‘Pontio’r Bwlch’, sy’n caniatáu i ofalwyr di-dâl fanteisio ar seibiannau hyblyg a dibynadwy. Mae’n caniatáu i ofalwyr gymryd seibiant fel y bo’n addas i’w hanghenion a gall gynorthwyo yn achos angen brys am seibiant.

Ffyrdd arloesol ac ysbrydoledig o weithio (noddwyd gan Fwrdd Gofal Cymdeithasol Cymru) – enillwyd gan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Ar gyfer ei brosiect ‘Meddwl am y Baban’, sy’n cynnig ymyrraeth gynnar effeithiol i deuluoedd mewn ymdrech i wella canlyniadau yn y tymor byr, canolig a hir. Mae’r prosiect yn rhoi cymorth cyn ac ar ôl geni i deuluoedd, gyda’r nod o ostwng nifer y plant sy’n derbyn gofal.

Gwrando ar, a gweithio â phobl sy’n byw gyda dementia (noddwyd gan Blake Morgan) – enillwyd gan Y Rainbow Centre

Ar gyfer ei brosiect canolfan ddydd, sef hyb cymunedol pwrpasol sy’n cynnig amrywiaeth o ymyriadau, fel grwpiau ymarfer corff a diddordebau cymdeithasol, allgymorth cymunedol a chyfeillio, ynghyd â chludiant cymunedol a chyfleoedd gwirfoddoli. Nod y prosiect yw hybu heneiddio cadarnhaol a rhoi grym i bobl hŷn fod mor annibynnol â phosibl ac ailgysylltu â’r gymuned leol.

Gwobr Gofalwn Cymru (noddwyd gan Ymgyrch Gofalwn Cymru) – enillwyd gan Sandra Stafford, gofalwr maeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Enwebwyd gan weithwyr cymdeithasol Danielle Dally a Sarah Vater

Mae “gofalwyr maeth eithriadol” Sandra a’i gŵr Mark wedi bod yn ofalwyr maeth er 2001, yn dangos ymrwymiad ac angerdd ac yn darparu ansawdd uchel o ofal. Rhoddwyd un plentyn maeth gyda’r teulu ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ysbyty. Mae Sandra, fel y prif ofalwr, yn wynebu heriau bob dydd, ond cafodd y plentyn ei chroesawu gyda breichiau agored a rhoddwyd cariad, sefydlogrwydd a thosturi iddi, a fyddai’n ei galluogi i wneud cynnydd sylweddol wrth adfer. Darparwyd cartref diogel a chariadus i’r plentyn hwn, mae hi’n cael ei derbyn ac yn cael ail gyfle am fywyd ac i gyrraedd ei llawn botensial.

Gwyliwch y seremoni yma…

Hysbyseb teledu Gofalwn Cymru

Ym mis Mai eleni, daethom a cherdd gofalwr am ei swydd yn fyw ar ffurf hysbyseb deledu.

Mae’r hysbyseb yn cynnwys llais Emma Pinnell sy’n darllen “Just a Carer”; cerdd yr ysgrifennodd ar gyfer rhaglen Rhod Gilbert’s Work Experience, a ffilmiwyd yng nghartref gofal College Fields y Barri.

Diolch hefyd i’r cartrefi gofal a sefydliadau sydd wedi rhannu eu clipiau gyda ni i’w cynnwys yn yr hysbyseb: Llys Hafren, Pontypool, Powys Capel Grange Nursing Home, Casnewydd College Fields, Y Bari Cwmbran House, Cwmbran Tŷ Gwyn Care Home, Cwmbran Penylan House, Caerdydd St Isan Care Home, Caerdydd Woodcroft Care Home, Caerdydd!

#Diolch gan blant a rhieni Cymru

Ym mis Mai elei, daeth plant o bob oedran a’u rhieni ynghyd i ddweud “Diolch” i’r bobl sy’n gweithio yn y sectorau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.

Tra bod rhieni ledled y wlad yn ceisio cydbwyso gweithio gartref â gofalu am eu plant, roedd y parch a’r edmygedd tuag at weithwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae, sy’n helpu ein plant i ddysgu, chwarae a datblygu, ar gynnydd…

RECRIWTIO GOFAL SIR DDINBYCH – Ymateb yn ystod amseroedd digynsail

Mae’n deg i ddweud bod 2020 wedi bod yn flwyddyn arbennig o brysur ac anrhagweladwy i bawb sy’n gweithio yn y sector gofal, ond mae cymaint o bobl wedi ymateb i’r heriau ac wedi mynd yr ail filltir i ddarparu cefnogaeth a gofal i’n cymunedau lleol. Mae hynny’n arbennig o wir am Dîm Datblygu’r Gweithlu o Sir Ddinbych, a gefnogodd brosiect i hyrwyddo recriwtio mewn gofal.

Nod y prosiect oedd sicrhau bod digon o staff a gwirfoddolwyr ar gael i ddarparu gofal a chefnogaeth o ganlyniad i’r pandemig parhaus. Gan weithio gyda’i gilydd, datblygodd y grŵp prosiect o bell wasanaeth recriwtio newydd a gynorthwyodd gyda recriwtio, fetio, sefydlu a dyrannu staff newydd. Fe wnaethant hefyd weithio’n galed i baru unigolion â’r rolau lle roeddent yn fwyaf addas, gan sicrhau bod pob gweithiwr neu adleolwr newydd yn derbyn cyfnod sefydlu trylwyr i’w rôl newydd yn ogystal â galwadau gwirio rheolaidd a chefnogaeth.

Mae’r prosiect wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a llwyddodd y tîm i sicrhau bod gofal a chefnogaeth yn cael eu cynnal i’r bobl fwyaf bregus yn Sir Ddinbych. Mae bron i 70 o unigolion wedi cael eu dyrannu i rolau o fewn Gofal Preswyl ac Ychwanegol, Gofal Cartref a’r gwasanaeth cyfeillio. Mae’r staff a gafodd eu recriwtio wedi ymgymryd ag amrywiaeth eang o wahanol dasgau, gan gynnwys gofal a chefnogaeth, tasgau domestig, coginio, cludiant, ynghyd â darparu cefnogaeth lles i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

Mae’r unigolion hyn wedi bod yn amhrisiadwy wrth ymateb i sefyllfaoedd o argyfwng, ynghyd â helpu i atal y sector rhag cyrraedd pwynt argyfwng. Mae brwdfrydedd, gwaith caled a gallu i addasu unigolion a’r lleoliadau gofal y cawsant eu dyrannu ynddynt wedi bod yn hanfodol i wneud y dull hwn yn llwyddiant, ond ni fyddai dim ohono wedi bod yn bosibl heb waith caled Tîm Datblygu’r Gweithlu.

Dywed David, adleolwr a ddefnyddiodd y gwasanaeth newydd, “ar ôl gweithio yn y sector gofal am 12 mlynedd, roedd yn bleser defnyddio fy mhrofiadau yn y gorffennol a chefnogi’r tîm yn Gorwel Newydd yn ystod yr amseroedd digynsail hyn. Gwnaeth y gefnogaeth a gefais gan y tîm recriwtio argraff fawr arnaf, ond nid oes angen i mi boeni gan fy mod wedi cael croeso cynnes gan y gweithwyr gofal eraill ac yn teimlo’n gartrefol ar unwaith. Roeddwn i’n teimlo’n ddiogel iawn gyda’u hymateb i’r pandemig, roedd y preswylwyr a’r staff yn cael eu gwarchod a’u hysbysu’n dda bob amser.”

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.