Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

20 Tachwedd 2020

Wythnos Gofalwn Cymru: Diwrnod pump - Cartrefi Gofal

Cartrefi gofal, a elwir yn gartrefi gofal preswyl hefyd, yw cartrefi lle mae oedolion yn gallu byw gyda’r gofal a’r cymorth ychwanegol a allai fod ei angen arnynt.

Maen nhw’n ceisio creu amgylchedd cartrefol a chroesawgar i’w trigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i staff. Yn ogystal â llety, maen nhw’n cynnig ystod eang o weithgareddau i drigolion eu mwynhau, a all gynnwys gwibdeithiau, ymarfer corff a gweithgareddau diwylliannol. Mae cartrefi gofal yn cefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion gwahanol ac yn helpu trigolion i fyw’r bywyd maen nhw am ei fyw.

Yma, rydyn ni’n rhannu straeon gan rhai o’r bobl arbennig sy’n gweithio mewn cartrefi gofal ledled Cymru.

Charles, Hyfforddwr yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pendine

Dechreuodd Charles weithio mewn gofal ar ddechrau’r pandemig COVID-19 ar ôl i’w waith presennol ddod i stop. Ar ôl gweithio fel hyfforddwr yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn o’r blaen, bu Charles fel arfer yn gweithio gyda grwpiau o blant ysgolion cynradd i’w helpu gyda dringo, syrffio a gweithgareddau awyr agored, a oedd yn hollol wahanol i’w rôl newydd yn Y Bwthyn lle roedd yn gofalu am gleifion â dementia. “Roedd yn wahanol, ac nid oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o weithio ym maes gofal, ond roedd y staff yn barod i helpu ac wedi dangos i mi beth i’w wneud,” mae Charles yn cofio.

Mae cychwyn gyrfa mewn gofal ar anterth pandemig byd-eang yn dod â phryderon ychwanegol, ond mwynhaodd Charles ei gyfle newydd yn fawr. “Roeddwn i ychydig yn bryderus oherwydd roeddwn i wedi clywed ar y newyddion am broblemau gyda PPE, ond unwaith i mi ddechrau, roedd yn hollol iawn – fe wnaeth y cartref flaenoriaethu ein lles mewn gwirionedd ac roeddwn i’n teimlo’n ddiogel iawn,” esboniodd. “Fy mhrif bryder oedd gwneud yn siwr fy mod yn gwneud gwaith da o ofalu am gleifion.”

Gan fyfyrio ar yr ychydig fisoedd diwethaf, dywed Charles wrthym, “bu cymaint o bethau cadarnhaol ynglŷn â gweithio mewn gofal. Roedd gen i lawer o barch eisoes at bobl sy’n gweithio mewn gofal, ond roedd yn anhygoel gweld pobl yn trin preswylwyr â chymaint o urddas a charedigrwydd â fy llygaid fy hun. Weithiau byddwch chi’n clywed pethau negyddol am gartrefi gofal ar y newyddion, ond ni allai hynny fod wedi bod ymhellach o’r gwir o fy mhrofiad – roedd y bobl mor ymroddedig i’w gwaith ac roedd yn hyfryd. ”

Mabli, Cynorthwyydd Gofal

Mae Mabli wedi bod yn gweithio fel Cynorthwyydd Gofal yn yr Uned Dementia yng Nghartref Gofal Preswyl Bryn Blodau yn ystod pandemig coronafirws eleni…

Jackie, Cynorthwyydd Domestig

Mae Jackie yn Hyrwyddwr Dementia. Cysylltodd ag ysgol gynradd leol i drefnu bod grŵp o blant ysgol blwyddyn chwech yn ymweld â Chartref Porthceri i Bobl Hŷn yn y Barri, bob pythefnos i dreulio amser gyda’r preswylwyr. Mae’r effaith ar lesiant y preswylwyr wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r prosiect hwn wedi ysgogi ac ennyn diddordeb y preswylwyr, yn ogystal â chynyddu hyder y bobl ifanc…

Sharron, Rheolwr Cynorthwyol

Sharron yw’r Rheolwr Cynorthwyol yng Nghartref Gofal Plas Gwilym ac mae hi’n cynorthwyo’r rheolwr gyda rhedeg y cartref…

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.