Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

09 Medi 2019

Angen mwy o bobl ifanc i helpu’r Gweithlu gofal yng nghymru i ymdopi yn y dyfodol

Mae angen i fwy o bobl ifanc ymuno â’r gweithlu gofal yng Nghymru i sicrhau bod digon o weithwyr ar gael i ateb heriau’r dyfodol.

Dim ond tua 11 y cant o’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru sydd o dan 25 oed, tra bod 32 y cant dros 50, yn ôl Gofal Cymdeithasol Cymru.

I dynnu sylw at yr amrywiaeth o swyddi sydd ar gael i bobl ifanc, mae’r ymgyrch recriwtio genedlaethol GofalwnCymru yn lansio wythnos o weithgareddau heddiw (9 Medi).

Bydd Wythnos GofalwnCymru yn dangos sut brofiad yw gyrfa mewn gofal cymdeithasol a gofal plant. Bydd pobl ifanc yn rhannu eu profiadau o weithio mewn rolau gwahanol yn y meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Mae’n hanfodol bod mwy o bobl ifanc yn dewis gyrfa mewn gofalu i helpu’r gweithlu i ymdopi yn y dyfodol, gan fod cyfran fawr o’r cyflogeion presennol yn nesáu at oedran ymddeol.

“Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr o ofal plant am ddim i rieni sy’n gweithio a chefnogaeth i rieni di-waith sydd eisiau hyfforddi ac ennill sgiliau hefyd yn golygu y bydd angen mwy o weithwyr ar ddarparwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant i ateb y galw cynyddol.

“Rydym yn gwybod o’n gwaith ymchwil ein hunain fod pobl ifanc yn aml yn meddwl bod gwaith gofal yn waith caled. Fodd bynnag, gan fod mwy ohonynt yn byw gartref gyda’u rhieni yn hirach, yn gyrru llai ac yn chwilio am swyddi gwerth chweil, gallai swydd leol sy’n gwneud gwahaniaeth fod yn berffaith iddynt.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr ymgyrch hon, sy’n rhoi sylw i bobl ifanc sydd wedi dewis gyrfa sy’n gwneud gwahaniaeth yn y meysydd gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal pant, yn ysbrydoli eraill i ddysgu mwy a darganfod y manteision,” ychwanegodd Sue.

Mae Alaw Paul, 22, o Borthmadog, yn Weithiwr Gwasanaethau Ieuenctid. Wrth drafod ei rhesymau dros ddewis gweithio mewn gofal cymdeithasol, dywedodd: “Penderfynais weithio yn y sector i sicrhau bod gan bobl ifanc yn fy nghymuned lawer o gyfleoedd i gyrraedd eu potensial. Drwy fy ngwaith rwy’n gallu datblygu prosiectau sy’n magu eu hyder a’u sgiliau ac sydd hefyd o fudd i’r gymuned ehangach ar yr un pryd.

“Er mai dim ond ychydig flynyddoedd yn hŷn ydw i na rhai o’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw, rwy’n teimlo eu bod nhw’n gallu bod yn fwy agored gyda fi am eu problemau nag y byddent gyda pherson hŷn. Y peth gorau am fy swydd yw fy mod yn gallu gweld y gwahaniaeth rwy’n ei wneud i bobl a’u gweld nhw’n tyfu. Yn fy marn i, dyna’r math gorau o foddhad swydd.”

Mae Matthew Milum, 24, yn Arweinydd Tîm ym Meithrinfa Abacus yn Abertawe. Dywedodd: “Mae paratoi plant bach ar gyfer cam nesaf eu bywydau a dysgu sgiliau bywyd sylfaenol iddynt yn hanfodol. Nid dim ond chwarae yw gwaith meithrin – sylwais yn gyflym ei fod yn cynnwys llawer o gynllunio ac addysgu.

“Mae’n anodd ar adegau. Ond mae’r wên ar eu gwynebau pan maent yn cyflawni rhywbeth a gwybod fy mod i wedi helpu – sut i wisgo eu côt, er enghraifft – yn anhygoel.

“Os ydych chi’n frwdfrydig ac eisiau helpu pobl, fe wnewch chi ddisgleirio yn y maes hwn.”

Mae’r ymgyrch GofalwnCymru yn herio barn pobl ar weithio mewn gofal. Er y gall fod yn heriol, i’r bobl gywir gall fod yn yrfa werth chweil sydd ar gael yn eich ardal leol ac sy’n cynnig yr hyblygrwydd i ennill sgiliau a chymwysterau tra’n gweithio.

Os oes gennych chi ddiddordeb a’ch bod yn credu y gallech weithio gydag oedolion, pobl ifanc a phlant, ewch i Gofalwn.cymru. Gallwch chwilio am rolau swydd, clywed straeon gan weithwyr a chael gwybodaeth am gyflogwyr lleol yn eich ardal chi.

I ymuno â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch #WythnosGofalwn o 9 Medi.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.