Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

23 Mawrth 2020

Swyddi Gofalwn Cymru

Cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym eisiau helpu ymdrin â’r prinder staff y gallech fod yn ei wynebu ar hyn o bryd.

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i roi gofal a chymorth i’r rheini sydd fwyaf bregus yn ein cymunedau.

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag a chefnogi eich busnes, rydym yn creu porthol swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.

Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen  i chi gyhoeddi eich swyddi gwag ar Twitter o’ch sianeli chi, gan gynnwys  y manylion canlynol:

  • Teitl y swydd
  • Awrdurdod lleol (os yw’r rôl yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, rhestrwch nhw)
  • Disgrifiad byr o’r rôl
  • Rhaid iddo gynnwys hashnod: #SwyddiGofalwnCymru

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.