Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

30 Mawrth 2020

Porth swyddi gofal cymdeithasol newydd

Mae Gofalwn Cymru wedi lansio porth swyddi newydd i helpu cyflogwyr gofal cymdeithasol i hysbysebu eu nifer uchel o swyddi gwag, mewn ymateb i’r pandemig coronafirws.

Mae’r sector gofal cymdeithasol o dan bwysau cynyddol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i’r bobl mwyaf bregus yn ein cymunedau wrth i fwy o staff ddilyn canllawiau hunan-ynysu.

Er mwyn mynd i’r afael â’r prinder brys hwn, mae cyflogwyr wedi bod yn troi at y cyfryngau cymdeithasol i recriwtio mwy o bobl mewn nifer o rolau fel gofalwyr, cogyddion a gyrwyr.

Mae Gofalwn Cymru yn gweithio gyda chyflogwyr i rannu eu swyddi gwag ar Twitter gan ddefnyddio’r hashnod #SwyddiGofalwnCymru. Bydd yr holl swyddi yn cael eu cydgasglu ar www.Gofalwn.cymru/swyddi er mwyn i’r rhai sy’n chwilio am waith fedru eu chwilota. Mae dros 400 o swyddi wedi’u rhestru eisoes, gyda nifer o swyddi dros dro i fynd i’r afael â’r angen brys, a swyddi mwy hirdymor ar gael.

Gyda miloedd o bobl yn y sector lletygarwch, hamdden a manwerthu yn wynebu diweithdra neu ddyfodol ansicr, mae Gofalwn Cymru yn annog pobl i ystyried y sgiliau trosglwyddadwy y gallant eu defnyddio mewn gyrfa gofal, o weithio gyda phobl a darparu gwasanaeth i eraill. Y nod yw llenwi rolau tymor byr yn ystod yr argyfwng hwn, ond gallai’r profiad a geir helpu rhai i ystyried gyrfa hirdymor mewn gofal.

Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Yn gyntaf oll, mae’n bwysig ein bod yn cydnabod ein holl weithwyr gofal cymdeithasol am eu gwaith yn gofalu am eraill yn ystod y cyfnod hwn. Mae nhw wir yn achubiaeth i’n cymunedau.

“Yn fwy nag erioed, rydyn ni’n gweld y gwasanaethau hanfodol y maen nhw’n eu darparu i helpu’r bobl sydd eu hangen fwyaf. Ond, rydym angen mwy o bobl sydd â’r sgiliau cywir i helpu nawr.

“Mae cyflogwyr ledled y wlad yn wynebu diffyg sgiliau wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddigon o staff i ymdopi â’r galw. Bydd porth swyddi Gofalwn Cymru yn ei gwneud hi’n haws i gyflogwyr lenwi eu swyddi gwag wrth i ni yrru ceiswyr gwaith o bob cwr o’r wlad i ddarganfod swyddi yn eu hardaloedd.

“Mae hyn yn adeg cythryblus i ni i gyd, ac rwy’n annog unrhyw un a allai fod yn ddi-waith i ystyried sut y gallai eu sgiliau presennol eu helpu i ffynnu mewn rôl gofal cymdeithasol. Fe allai agor cymaint o gyfleoedd i chi helpu pobl yn eich ardal yn y tymor hir. ”

Mae’r porthol swyddi yn fyw ar: www.Gofalwn.cymru/swyddi

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.