Plant a rhieni yn dangos eu diolch i weithwyr gofal plant yn ystod y cloi mawr
Mae plant o bob oedran a’u rhieni wedi dod ynghyd i ddweud “Diolch” i’r bobl sy’n gweithio yn y sectorau blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae mewn fideo gan Gofalwn Cymru.
Tra bod rhieni ledled y wlad yn ceisio cydbwyso gweithio gartref â gofalu am eu plant, mae’r parch a’r edmygedd tuag at weithwyr blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae, sy’n helpu ein plant i ddysgu, chwarae a datblygu, ar gynnydd.
Cynhyrchwyd y fideo gan Gofalwn Cymru i roi hwb i forâl y gweithlu a rhoi gwybod iddynt faint rydym yn eu colli, tra bod y rhan fwyaf o leoliadau – ac eithrio’r rheini sy’n gofalu am blant gweithwyr allweddol – yn dal i fod ar gau.
Gofynnwyd i blant a rhieni gyflwyno eu fideos a chanu clodydd gwarchodwyr plant, meithrinfeydd a swyddogion gwaith chwarae. Cafodd mwy na 30 o fideos eu hanfon i mewn gan fabanod, plant iau a phlant hŷn â’u rhieni o bob cwr o Gymru yn dilyn galwad ar y cyfryngau cymdeithasol.
Y gobaith yw y bydd y fideo yn dangos gwerthfawrogiad ac yn cyfleu’r angen i bobl weithio yn y meysydd blynyddoedd cynnar, gofal plant a gwaith chwarae.
Mae’r sector wedi bod yn hanfodol i ymateb y wlad i’r argyfwng COVID-19, ond bydd hefyd yn helpu i ailadeiladu’r genedl wrth i rieni ddychwelyd i’r gwaith, pan fydd angen gofal ar blant ar ôl y cloi mawr.
Dywedodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru: “Rydw i hefyd yn diolch i bawb yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, sydd wedi bod yn gofalu am aelodau ieuengaf ein cymunedau dros y rhai misoedd diwethaf, am y gwaith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud.
“Mae ein gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant wedi bod yn cynnig gwasanaeth hanfodol i’n gweithwyr allweddol yn ystod y pandemig COVID-19. Drwy ofalu am eu plant, mae ein gweithwyr blynyddoedd cynnar a gofal plant yn ei gwneud yn bosib i’n gweithwyr allweddol barhau i gynnig gwasanaethau i’r oedolion a’r plant sydd eu hangen nhw yn ein cymunedau yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn.”
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Hoffwn ychwanegu fy niolch at beth ddwedodd y plant a’r rhieni yn y ffilm. Mae ymarferwyr gofal plant yn hollol allweddol i’n gallu i ymateb i COVID-19 ac rydych chi wedi ateb yr her gydag ymrwymiad ac ymdrech arbennig.
“Rydym yn hynod o ddiolchgar fel gwlad am bopeth rydych chi wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud. Diolch.”
I gael rhagor o wybodaeth am y rolau gwahanol sydd ar gael a manylion cyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ewch i Gofalwn.cymru