Rhod Gilbert yn darganfod sut beth yw bod yn weithiwr gofal
Wrth i ymroddiad gweithwyr gofal ddod i’r amlwg yn ystod y pandemig coronafirws, mae BBC Cymru wedi darlledu pennod arbennig o Rhod Gilbert’s Work Experiece am weithio mewn gofal.
Dywedodd Rhod Gilbert: ‘Rwyf wedi bod eisiau ffilmio pennod profiad gwaith fel gofalwr ers blynyddoedd – a chyn COVID-19, gwnaeth ein tîm bach iddo ddigwydd.
‘Roedd yn emosiynol iawn pan wnaethon ni ffilmio, oherwydd mae fy nhad mewn cartref gofal gwych, a bu farw fy mam o Alzheimer’s ychydig flynyddoedd yn ôl.
‘Yn ystod y ffilmio, cefais y fraint o dreulio ychydig ddyddiau yn helpu’r staff mewn cartref yn y Barri, De Cymru. Pan wnaethom ei ffilmio’r llynedd, roeddwn i’n teimlo bod gofalwyr yn un o’r aelodau o gymdeithas oedd yn cael eu gwerthfawrogi lleiaf, er eu bod y rhai mwyaf gwerthfawr o’n cymdeithas; nid yw hynny dan sylw bellach. ’
Mae’r bennod yn gweld Rhod yn cychwyn ar daith emosiynol wrth iddo ddarganfod pwysigrwydd gwaith gofalwyr. Trwy dreulio diwrnod yn hyfforddi, ychydig ddyddiau mewn cartref gofal a diwrnod allan yn y gymuned, mae Rhod yn canfod mai’r allwedd yw dod i adnabod y bobl y mae’n gofalu amdanynt.
Gallwch wylio’r bennod ar BBC iPlayer.