Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

10 Mehefin 2020

Mae Bluebird Care, darparwr gofal cartref yn Sir y Fflint, yn dathlu ymroddiad eu staff mewn ymateb i Covid-19

Mae Bluebird Care yn darparu gofal cartref yn Sir y Fflint, gogledd Cymru. Mae’r cwmni mor falch o’u staff mewn ymateb i Covid-19 maen nhw wedi rhoi anrheg arbennig i bob aelod o staff.

Dywedodd Rebecca Zartarian, Cyfarwyddwr Bluebird Care Swydd Gaer a Sir y Fflint: “Rydym ni mor falch o’n tîm anhygoel o ofalwyr dros y misoedd diwethaf, maen nhw wedi parhau i ddarparu’r gofal gorau i’n holl ddefnyddwyr gwasanaeth ledled Sir y Fflint.

Bluebird Care pamper packs

“Fe wnaethon ni roi pecyn maldod i bob aelod o’n tîm a oedd yn cynnwys cannwyll bersawrus, bar o siocled moethus a thiwb o hufen law hyfryd.”

I ddathlu Wythnos Gofalwyr, roedd Bluebird Care eisiau dangos i’w staff faint maen nhw’n eu gwerthfawrogi.

“Rydyn ni wedi rhoi cofrodd i bob aelod o’r tîm hefo’r ysgrifen, ‘Byddwch yn falch o’r hyn rydych chi’n ei wneud a’r gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud!’ ar un ochr ac ar yr ochr arall mae’n dweud ‘Ni fyddem yn dîm heboch chi. DIOLCH!! *Bluebird Care*’

“Maen nhw hefyd ar ffurf seren gan ein bod ni’n gweld ein tîm i gyd fel sêr.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am ymuno a thîm Bluebird Care yn Sir y Fflint, ewch i wefan Bluebird Care Careers.

Bluebird Care staff collageBluebird Care staff

 

 

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.