Skip to main content
EnglishCymraeg

Gweithio gyda Phlant

“Mae’n wych gweithio mewn meithrinfa. Mae pob dydd yn werth chweil oherwydd rwy’n gallu gwylio’r plant yn dysgu a thyfu.”
Kirsty Crowe, Cynorthwyydd Meithrin


P’un ai a ydych eisiau arwain tîm neu weithio i chi’ch hun o gartref, mae yna rôl i chi. Mae amrywiaeth o yrfaoedd ar gael yn gweithio gyda phlant.

Helpwch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gyrraedd ei llawn botensial.

Gweithio gyda phlant

Mae nifer o leoliadau gwahanol ble gallwch weithio yn y blynyddoedd cynnar yn ogystal â gofal cymdeithasol i blant.

Cliciwch ar y lleoliadau isod i ddysgu mwy.

Grŵp chwarae


Mae grŵp chwarae yn darparu profiadau chwarae, dysgu a datblygu o ansawdd i blant rhwng dwy a phedair oed. Cyfeirir ato fel ‘Gofal Sesiynol’. Fel arfer darperir pob sesiwn cylch chwarae am hyd at bedair awr y dydd a chefnogir plant sy’n mynychu i ddysgu trwy chwarae a chymryd rhan weithredol.

Dysgu mwy

Gofal Cartref – Plant


Mae gwasanaethau gofal cartref yn darparu ystod eang o ofal a chymorth i blant a phobl ifanc yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r gofal hwn wedi’i seilio ar anghenion, arferion a dyheadau’r plentyn neu’r person ifanc a’u teulu.

Dysgu mwy

Gwasanaethau Cymdeithasol


Social Services provide a wide range of support to improve the well-being of children and adults.

Dysgu mwy

Gofal Maeth


Mae gofal maeth yn ffordd o gynnig amgylchedd teulu diogel i blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u rhieni eu hunain.

Dysgu mwy

Meithrinfeydd Dydd a chyfleusterau Crèche


Mae meithrinfeydd dydd a crèches yn lleoliadau gofal plant sy’n gofalu am blant newydd-anedig tan maent yn mynd i’r ysgol.

Dysgu mwy

Gofal Plant yn y Cartref


Gofal plant yn y cartref yw pan fydd plentyn yn derbyn gofal mewn cartref. Gall hyn fod yn ei gartref ei hun, gyda nani, neu yng nghartref y gwarchodwr plant.

Dysgu mwy

Cartrefi Preswyl i blant


Mae ‘cartref plant preswyl’ neu ‘gartref plant’ yn gartref i blant nad ydynt yn gallu byw gyda’u teuluoedd eu hunain.

Dysgu mwy

Dechrau’n Deg


Rhaglen a ariennir sy’n cefnogi teuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dysgu mwy

Straeon go iawn gan bobl go iawn

Does dim ffordd well o wybod os ydych chi’n barod am yr her o weithio gyda phlant na chlywed gan bobl sydd yn gwneud y swyddi ar hyn o bryd. Isod mae dewis o ffilmiau i chi eu gwylio.

 

Peter Hornyik
Gweithiwr Gofal Plant Preswyl

Gwneud gwahaniaeth i ddatblygiad plant yw blaenoriaeth Peter. Mae’n frwd dros ddod â llawenydd i fywydau plant difreintiedig. Hyfforddodd Peter, sydd yn wreiddiol o Hwngari, fel athro cynradd cyn symud i weithio gyda phlant mewn gofal cymdeithasol.

Dysgu mwy

Amanda Calloway
Gwarchodwr Plant

Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud 'mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd.

Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.

Dysgu mwy

Karen Llewellyn
Darlithydd yn y Blynyddoedd Cynnar

Ar ôl gweithio fel gwarchodwr plant am 13 mlynedd, penderfynodd Karen ddefnyddio ei gwybodaeth a’i dealltwriaeth i symud ymlaen a dod yn ddarlithydd yng Ngholeg Gŵyr. Mae hi’n darlithio mewn Gofal Plant ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol i helpu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymdeithasol, gofalwyr a gwarchodwyr plant.

Dysgu mwy

Oes gennych chi
stori wych i’w rhannu?


Rydym yn chwilio am straeon pobl sy’n gweithio mewn Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar. Rydyn ni’n gwybod nad yw hi’n hawdd bob amser – dyma pam ein bod eisiau rhannu straeon gonest gan bobl go iawn. Os ydych chi’n credu bod eich stori’n un ysbrydoledig, cysylltwch â ni.

Cyswllt

Dod o hyd i ddarpar gyflogwyr

Cymrwch gip ar ein cronfa ddata o ddarparwyr gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar gall fod gyda chyfleoedd am swyddi. Mae’r rhestr hyn yn tyfu’n gynyddol, felly cadwch lygaid arno am ddiweddariadau.

Chwilio

Cofrestrwch fel cyflogwr

Os ydych chi’n gyflogwr sy’n chwilio am y person cywir i weithio i chi, cofrestrwch fanylion eich sefydliad isod i ymddangos ar y wefan.

Cofrestrwch