Gofalwyr yn mynd y tu hwnt i'r gofyn
Pan fethodd preswylydd yn ei 90au yn Nhŷ Heulog, Tonysguboriau, mynychu angladd ei wraig o dros 70 mlynedd, penderfynodd y staff drefnu seremoni breifat iddo.
Symudodd gwraig Monty, preswylydd blaenorol yn Nhŷ Heulog, i Anwen Care Home, Pen-y-bont ar Ogwr, lle byddai’n ymweld â hi mewn tacsi dair gwaith yr wythnos.
Gan wybod nad oedd Monty yn gallu mynychu’r angladd, trefnodd staff Tŷ Heulog wasanaeth byr i efelychu gwasanaeth swyddogol ei wraig, gan gynnwys y gerddoriaeth a’r penillion a ddewiswyd ganddo. Trefnodd y staff blatiau o fwyd a chacennau cartref ar gyfer wedi’r gwasanaeth.
Yn ymwybodol o effeithiau preswylwyr yn cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid yn ystod COVID-19, penderfynodd Melanie Walters, Rheolwr y Cynllun, a’i thîm sefydlu tudalen codi arian JustGiving. Gosododd y tîm darged o £200 i’r GIG brynu dyfeisiau digidol, er mwyn galluogi dioddefwyr COVID-19 i gysylltu â’u hanwyliaid.
Er mwyn codi ysbryd y cartref, bu’r tîm yn brysur yn meddwl am ffyrdd creadigol o godi arian. Defnyddiodd Demi-leigh Walters ei diwrnod i ffwrdd i dorri gwallt aelodau staff, cafod coesau Kian Oliver eu cwyro a lliwiodd David Jones ei wallt yn las i gefnogi’r GIG. Yn ogystal, fe roddodd Tesco lleol Tŷ Heulog 42 o wyau Pasg iddynt – un yr un i’r preswylwyr.
Hyd yn hyn mae Tŷ Heulog wedi codi dros £500 i’r GIG!
Os ydych chi’n adnabod unrhyw ofalwyr sy’n mynd yr ail filltir, cysylltwch â ni.