Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

24 Medi 2020

Ffordd newydd a hawdd o gyhoeddi swyddi gwag ar ein porth swyddi

Cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym wedi ei gwneud hi’n haws i chi restru’ch swyddi gofal cymdeithasol cyfredol ar ein porth swyddi.

Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i ddarparu gofal a chefnogaeth i’r rhai sy’n agored i niwed yn ein cymunedau.

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi’ch swyddi gwag a chefnogi’ch busnes, rydym wedi creu ffurflen syml i chi ei llenwi ar ein gwefan.

Er mwyn i hyn ddigwydd, bydd angen y manylion canlynol arnoch:

  • Teitl swydd
  • Disgrifiad byr o’r swydd wag
  • Lleoliad
  • Tudalen swyddi gwefan / gwefan / dolen Facebook
  • Trosolwg byr o’ch busnes
  • Rhif Ffôn
  • Cyfeiriad ebost.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.