Mair Aubrey
Rheolwr Gwasanaeth
Yn fwy na dim, mae Mair eisiau sicrhau bod y bobl y mae hi’n gweithio gyda nhw yn gallu byw eu bywydau gystal â phosib. Dechreuodd Mair ar ei thaith ofalu fel gweithiwr cymorth ac mae wedi cwblhau dau gymhwyster wrth weithio. Mae hi nawr yn rheoli staff mewn cartref gofal i oedolion anabl, gan sicrhau bod ei thenantiaid yn cael y gofal a’r cymorth cywir.
Holi ac Ateb gyda Mair
Pa fath o berson y mae'n ei gymryd i weithio ym maes gofal cymdeithasol?
Rhaid i chi fod yn berson ofalgar, ni all neb eich dysgu i ofalu.
Dywedwch wrthym y darn pwysicaf o weithio mewn gofal?
Sicrhau bod y bobl yn cael y gofal gorau a'r bywyd gorau posibl.
Beth yw'r camsyniad mwyaf o ran gweithio mewn gofal?
Mae llawer mwy na dim ond rhoi gofal personol, rydym yn mynd ar wyliau gyda nhw ac yn eu cefnogi ym mhob ffordd.