Jane Alexander
Cyn Prif Swyddog Gweithredol
Mae Jane wedi gweithio mewn amrywiaeth o rolau a lleoliadau yn y sector Blynyddoedd Cynnar. Ar ôl dechrau mewn rôl wirfoddol, cwblhaodd ei chymwysterau a’i hyfforddiant DPP er mwyn datblygu ei gyrfa a chyrraedd ei rôl bresennol; mae hi wedi bod yn goruchwylio darpariaeth Blynyddoedd Cynnar Cymru ers pum mlynedd a hanner.
Holi ac Ateb gyda Jane
Sonia wrthym am dy lwybr gyrfaol.
Mae wedi bod yn un eitha’ hir. Ond nid dim ond fy natblygiad i sy’n plesio - mae helpu pobl eraill i ennill cymwysterau a gwybodaeth a gweld eu brwdfrydedd dros ddatblygiad plant yn hynod o werth chweil.
Pa gymwysterau sydd eu hangen i weithio yn y Blynyddoedd Cynnar?
Mae angen amynedd arnoch a’r gallu i beidio dal nôl wrth chwarae gyda phlant. Eich cyfrifoldeb chi yw eu helpu i ddatblygu a darganfod y byd.
Beth yw’r peth gorau am dy swydd?
Gweld y plant yn chwarae ac yn derbyn gofal yn eu cymunedau eu hunain. Mae bod yn rhan o hynny yn gwneud popeth yn werth chweil ac yn gwneud i chi deimlo’n eithaf arbennig.