Neidio i'r prif gynnwys

Helen Greenwood

Arweinydd Meithrinfa

Mae Helen yn Arweinydd Meithrinfa yn Ysgol Feithrin Pont-y-pŵl ac mae hi’n frwdfrydig dros addysgu’r genhedlaeth nesaf drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol i helpu’r plant i ddysgu, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn amgylchedd diogel ac addas i bawb.

Holi ac Ateb gyda Helen

Pam fod hi’n bwysig i siaradwyr Cymraeg weithio mewn gofal plant?

Mae rhieni wir yn gwerthfawrogi cael meithrinfa gymunedol syn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ac, wrth i fwy a mwy o deuluoedd ddewis addysg Gymraeg, mae angen mwy o siaradwyr Cymraeg arnom i hyfforddi i weithio yn y sector cyn ysgol nas cynhelir

Beth mae dy rôl di’n ei gynnwys?

Rwy’n gyfrifol am gynllunio gweithgareddau dyddiol, cadw’r plant yn ddiogel a sicrhau bod y feithrinfa yn addas i bawb.

Wyt ti’n mwynhau dy swydd?

Dyma’r peth gorau dwi wedi’i wneud erioed. Mae wedi bod yn wych!

Mwy o straeon gofal plant

New to care? Find out how to get started