Neidio i'r prif gynnwys

Chloe Paterson

Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd

Mae Chloe yn gweithio i Gyngor Sir Rhondda fel Gweithiwr Cymorth Cyfleoedd Dydd, ac mae hi newydd gwblhau rhaglen brentisiaeth. O ddydd i ddydd mae hi’n cefnogi oedolion ag anableddau dysgu mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan adeiladu eu hannibyniaeth a dysgu sgiliau newydd iddyn nhw.

Holi ac Ateb gyda Chloe

Beth wnaeth dy ysbrydoli i ddechrau gweithio yn y sector?

Mae fy mrawd yn awtistig, a do’n ni ddim yn agos achos ‘mod i ddim yn gwybod sut i gyfathrebu ag e. Fe ddechreues i gwrs yn y golwg lle dysges i am lawer o anableddau, ac erbyn hyn mae ein perthynas ni’n anhygoel.

Beth wyt ti’n ei wneud mewn wythnos arferol?

Ry’n ni’n gwneud amrywiaeth o weithgareddau o ddydd i ddydd. Un dydd byddwn ni’n mynd allan i’r gymuned i arddio a’r diwrnod nesa byddwn ni’n seiclo.

Pam fyddet ti’n argymell gweithio mewn gofal cymdeithasol?

Mae gweld y wên ar wynebau pobl ar ôl iddyn nhw gyflawni rhywbeth yn hynod o werth chweil. Ry’ch chi’n mynd adref yn gwenu yn gwybod eich bod chi wedi gwneud eu bywydau’n well a’u helpu i dyfu fel unigolion.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started