Neidio i'r prif gynnwys

Amanda Calloway

Gwarchodwr Plant

Ar ôl cael plant, roedd Amanda eisiau symud ‘mlaen o’i gyrfa mewn bancio. Dewisodd fod yn warchodwr plant oherwydd yr hyblygrwydd. Ochr yn ochr â’i gyrfa fel gwarchodwr plant, gan weithio o gartref, astudiodd Amanda am radd yn y Blynyddoedd Cynnar a chymhwyster rheoli Lefel 5.

Holi ac Ateb gyda Amanda

Beth wyt ti’n ei wneud ar ddiwrnod arferol?

Ry’n ni’n gwneud llawer y tu allan, ry’n ni wrth ein bodd yn yr awyr agored! Ry'n ni’n ymweld yn rheolaidd â’r warchodfa natur, y coetiroedd, y traeth, ac yn mwynhau treulio cymaint o amser â phosib tu allan.

Beth yw oedran y plant rwyt ti’n gofalu amdanynt?

Dwi wedi addasu dros y blynyddoedd a dod o hyd i’r hyn sy’n addas i fi; o chwe mis tan eu bod yn barod i fynd i’r dosbarth derbyn yn bedair oed.

Beth sydd wedi dy synnu fwyaf am dy swydd?

Dwi wedi dysgu llawer a chwblhau gradd nad oedd ar gael pan o'n i'n 18. Mae hyn wedi fy ngalluogi i ddeall seicoleg plant a chael y gorau allan ohonyn nhw.

Mwy o straeon gofal plant

New to care? Find out how to get started