Neidio i'r prif gynnwys

Alaw Paul

Gweithiwr Cymorth Ieuenctid

Penderfynodd Alaw ei bod eisiau gweithio gyda phobl ifanc wedi cyfnod yn gwirfoddoli gyda Chlwb Ffermwyr Ifanc a haf yn gweithio yn Camp America. Mae hi hefyd wedi treulio cyfnod yn gweithio fel gweithiwr cefnogi teulu i Barnado’s cyn symud i weithio fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid yng Ngwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn gweithio gyda phobl ifanc.

Holi ac Ateb gyda Alaw

Beth yw dy swydd?

Dwi’n addysgu pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed mewn ysgolion ac allan yn y gymuned drwy weithio ar brosiectau gwahanol a chynnig cefnogaeth pan mae ei angen.

Sut wyt ti’n cael cymorth yn dy swydd?

Fel arfer rydw i’n gweithio allan yn y gymuned yn hytrach na mewn swyddfa, ond mae gen i gefnogaeth wych gan y tîm dros e-byst neu ar ochr arall y ffôn.

Pam ei fod yn bwysig cael pobl ifanc yn gweithio mewn gofal?

Mae gen i berthynas dda gyda’r bobl ifanc achos fy mod i hefyd yn ifanc. Maen nhw’n ymddiried ynof i, achos dydw i ddim llawer hyn na nhw a dwi’n gallu deall beth maen nhw’n mynd trwy.

Mwy o straeon gofal cymdeithasol

Gofal cymdeithasol

New to care? Find out how to get started