Bythefnos Gofal Maeth
Ymgyrch ‘The Fostering Network’ yw Bythefnos Gofal Maeth, 13 i 26 o Fai, i godi proffil maethu.
Mae’r ymgyrch wedi ei ddatblygu gan ‘The Fostering Network’ er mwyn arddangos yr ymrwymiad, angerdd ac ymroddiad gofalwyr maeth. Mae’n cefnogi gwasanaethau maethu i bwysleisio’r angen am fwy o ofalwyr maeth.
Mae gofalwyr maeth yn newid bywydau. Pob blwyddyn ar draws Cymru mae plant angen gofalwyr maeth pan nad oes modd iddynt fyw hefo’u teuluoedd, am lawer o resymau gwahanol.
Mae gofalwyr maeth yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc gall newid eu bywydau. Mae angen miloedd o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn i ofalu am blant, gyda’r angen mwyaf ar gyfer gofalwyr maeth i blant hŷn, grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant anabl a phlant ar eu pen eu hunain yn ceisio lloches.
Mae angen miloedd o ofalwyr maeth newydd pob blwyddyn, oes gennych chi’r gallu i newid bywyd?
Mae nifer o ffyrdd o gymryd rhan yn Bythefnos Gofal Maeth, trwy’r cyfryngau cymdeithasol ar #FCF19 a #changeafuture.
Dewch o hyd i fwy am Bythefnos Gofal Maeth ar wefan ‘The Fostering Network’.