Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

06 Ionawr 2020

Angen 550 mwy o ofalwyr maeth ar draws Cymru yn 2020

Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi amcangyfrif y bydd angen 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i gadw’n gydwastad gyda’r galw eang.

I gyflawni hyn, heddiw (1 Ionawr 2020) mae wyth awdurdod lleol ledled Cymru wedi lansio  #20Rheswm, ymgyrch i annog pobl o fewn eu hardal leol i ystyried maethu.

Mae’r ymgyrch yn defnyddio gofalwyr maeth go iawn a’u cymhellion am faethu i hysbysu ac ysbrydoli mwy o deuluoedd i ystyried gofalu am blentyn neu berson ifanc.

Mae’r 20 rheswm i faethu yn amrywio o wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn drwy roi ymdeimlad o gariad, perthyn a sicrwydd iddynt; i fod yn rhan o adeiladu dyfodol cadarnhaol a helpu i gadw plentyn yn eu hardal leol fel y gallant aros yn yr ysgol ac yn agos at eu ffrindiau.

Mae angen pob math o ofalwyr maeth ond yn neilltuol rai a fyddai’n ystyried maethu pobl ifanc yn eu harddegau, gofalwyr therapiwtig, gofalwyr seibiant, gofalwyr argyfwng, grwpiau siblingiaid a phlant gydag anghenion ychwanegol.

Mae Tammy, 36, yn un o’r gofalwyr maeth sy’n cefnogi’r ymgyrch. Bu’n ofalwr maeth am bron saith mlynedd. Ar ôl blynyddoedd o geisio cael eu plentyn eu hunain, dewisodd Tammy a’i phartner gymryd dull gweithredu gwahanol drwy faethu.

Dywedodd Tammy: “Sylweddolais fod cynifer o blant angen cartref cariadus ac roedd gen i gymaint o gariad i’w roi i blentyn felly roedd yn gwneud synnwyr mai dyma sut y gallwn adeiladu ein teulu.

“Mae gen i gwlwm gwirioneddol agos gyda’r holl blant rwyf wedi eu maethu. Mae un o’n plant maeth bellach yn 17 oed ac nid yw’n byw gyda ni erbyn hyn ond mae’n dal i ddod draw am ginio dydd Sul bob wythnos. Mae ein plant maeth hirdymor presennol hyd yn oed yn ein galw yn mam a dad, ac nid oes teimlad gwell na hynny mewn gwirionedd.”

Os ydych wedi bod yn ystyried maethu neu yr hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Dyma #20Rheswm am faethu yn 2020:

  1. Gallwch blentyn a gafodd orffennol anodd
  2. Byddwch yn helpu i adeiladu dyfodol cadarnhaol
  3. Gallwch helpu plentyn i gyrraedd ei botensial llawn
  4. Mae maethu yn rhyfeddol a gwerth chweil
  5. Cwrdd â phobl ofalgar eraill – yn union fel chi.
  6. Gallwch wneud gwahaniaeth yn lleol
  7. Dewis pa fath o faethu sy’n iawn i chi.
  8. Help i gadw plentyn yn eu hysgol
  9. Datblygu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau
  10. Byddwch yn gwneud gwahaniaeth sy’n parhau am oes
  11. Mae’n ffordd wahanol i dyfu eich teulu
  12. Dod yn rhan o’n cymuned faethu
  13. Byddwch yn fodel rôl cadarnhaol
  14. Mae caredigrwydd yn teimlo’n dda
  15. Mae gan blant a phobl ifanc angen brys am gymorth
  16. Byddwch yn helpu i feithrin hyder plentyn
  17. Gallwch newid gyrfa
  18. Byddwch yn rhoi cyfle mewn bywyd i blentyn
  19. Mae maethu yn rhoi safbwyntiau newydd i chi
  20. Byddwch yn rhoi ymdeimlad o berthyn i blentyn

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.