Ai gofal cymdeithasol yw'r yrfa i chi?
Ydych chi eisiau gyrfa ble gallwch ddysgu rhywbeth newydd pob dydd? Ydych chi eisiau cefnogi pobl i fyw’r bywydau maent eisiau byw? Ydych chi wedi cysidro gyrfa yn iechyd a gofal cymdeithasol?
Gwnaeth Cyngor Sir Penfro gynnal ffair swyddi Gofalwn ar 4 Ebrill 2019. Eu nod oedd dangos i bobl bod amrywiaeth o lwybrau gyrfa ar gael yn iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rôl allan yno i bawb ac roedd y digwyddiad hwn eisiau dangos i chi sut i ddod o hyd i’r swyddi hyn.
Mae’n grêt gweld Cyngor Sir Penfro yn cefnogi’r ymdrech i recriwtio mwy o weithwyr gofal.
Cafwyd y cyfle i gyfarfod a chyflogwyr iechyd a gofal cymdeithasol o hyd a lled Sir Penfro. Roedd 26 stondin gan gynnwys darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau cymorth cyflogaeth, cynghorwyr ar waith cymdeithasol, gwarchod plant a gwirfoddoli.
Roedd gweithwyr gofal cymdeithasol wrth law drwy’r dydd i egluro eu gwaith a chynghori pobl ar y llwybrau i mewn i ofal.
Roedd yn ddiwrnod llwyddiannus a chafodd ffurflenni cais eu cwblhau a chyfweliadau eu trefnu.
I ddod o hyd i fwy am y cyfleoedd gyrfa yn iechyd a gofal cymdeithasol yn Sir Penfro cysylltwch â Chyngor Sir Penfro:
01437 776072