P'un a ydych chi'n dod o hyd i'ch swydd gyntaf, neu'n edrych i symud ymlaen, mae gennym ni 100 o rolau ar gael.
Drwy bob uchafbwynt a phob isafbwynt. Bydd y gwahaniaeth.
Mewn cymunedau ledled Cymru, mae gweithwyr cymdeithasol yn cerdded ochr yn ochr â phobl yn eu hamseroedd mwyaf heriol – a’u hamseroedd mwyaf llawn gobaith. Os ydych chi’n cael eich gyrru gan dosturi, gwydnwch, a’r gred bod pawb yn haeddu cefnogaeth a pharch, gall eich sgiliau newid bywydau.
Dechreuwch eich taith mewn Gwaith Cymdeithasol yng Nghymru heddiw a helpwch lunio dyfodol mwy disglair, un person ar y tro.
Os ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes gofal, mae gennym amrywiaeth o raglenni hyfforddi ar gael i’ch helpu i ddechrau arni.
Sut allwn ni helpu yma yn Gofalwn Cymru.
Gall gweithio gydag oedolion mewn gofal cymdeithasol fod yn heriol. Ond, i’r person cywir, gall fod yn hynod o werth chweil. Gweithiwch mewn gofal cymdeithasol i fod yn help i’ch cymuned.
P’un ai a ydych eisiau arwain tîm neu weithio i chi’ch hun o gartref, mae yna rôl i chi. Mae amrywiaeth o yrfaoedd ar gael yn gweithio gyda phlant. Helpwch i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf i gyrraedd ei llawn botensial.